Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi heddiw y bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael rhagor o arian cyhoeddus.
Fe fydd yr ardd yn cael £700,000 ym mlwyddyn ariannol 2011-12, os ydyn nhw’n cwrdd â gofynion y llywodraeth.
Roedd adroddiad annibynnol wedi dweud fod angen nawdd cyhoeddus ar bob gardd fotaneg a bod gerddi Kew a Caeredin yn derbyn mwy o arian fesul ymwelwr na’r ardd ger Caerfyrddin.
Yn ôl yr adroddiad fe fyddai’r arian o gymorth i’r ardd wrth iddynt ddatblygu cynllun busnes cynaliadwy.
Dywedodd gweinidog treftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones, fod Gardd Fotaneg Cymru wedi gwneud cyfraniad hanfodol i dwristiaeth, gwyddoniaeth ac addysg.
Roedd hefyd wedi bod yn hwb i economi de orllewin Cymru, meddai.
“Fe fydd y nawdd yma, sydd wedi ei argymell gan adolygiad annibynnol, yn helpu i’r ardd ddatblygu yn ganolfan gwyddonol ragorol, ac atyniad i ymwelwyr,” meddai.
“Yn y dyfodol fe fydd rhaid i’r ardd ddatblygu cynllun busnes cynaliadwy a chwrdd ag ystod eang o dargedau heriol os ydynt am gael yr arian.”