Catherine Zeta Jones
Mae’r actores o Abertawe, Catherine Zeta Jones, wedi derbyn CBE gan y Tywysog Siarl heddiw, i gydnabod ei gwaith elusennol a’i gyrfa lwyddiannus ar y sgrin fawr.

Roedd ei gwr Michael Douglas a’i phlant Dylan a Carys yno wrth iddi dderbyn yr anrhydedd.

Pan gyhoeddwyd y bwriad i’w gwobrwyo haf llynedd, dywedodd ei bod hi “wrth ei bodd yn cael derbyn yr anrhydedd”.

Daeth yr actores 41 oed i amlygrwydd wrth chwarae rhan Mariette Larkin mewn addasiad teledu o The Darling Buds of May ar ITV yn y nawdegau cynnar.

Daeth ei llwyddiant yn Hollywood rhai blynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl cael ei dewis i actio rhan Elena Montero yn ffilm The Mask of Zorro ym 1998.

Enillodd y Gymraes wobr Oscar yn 2002 am yr actores gynorthwyol orau am chwarae rhan Velma Kelly yn y ffilm Chicago.

Mae’n debyg fod yr actores wedi methu â theithio i Brydain pan gyhoeddwyd yr anrhydedd iddi yn yr haf, oherwydd salwch ei gŵr, ond fe gyhoeddodd Michael Douglas fod y tiwmor yn ei wddf wedi gwella ym mis Ionawr eleni.