Syr Michael Moritz
Mae’r Cymro a chadeirydd cwmni Sequoia Capital wedi cael ei urddo’n farchog gan y Frenhines heddiw am wasanaethau i hyrwyddo buddiannau economaidd y DU a gwaith dyngarol.

Cafodd y biliwnydd, Syr Michael Moritz, ei addysg mewn ysgol gyfun yng Nghaerdydd ac mae wedi byw yn yr Unol Daleithiau am flynyddoedd lawer.

Mae wedi cyfrannu £75 miliwn i Brifysgol Rhydychen, lle bu’n astudio, i helpu myfyrwyr o dan anfantais.

Credir mai Syr Michael Moritz yw’r dyn cyfoethocaf o Gymru. Yn ôl y Sunday Times Rich List, mae’n werth £1.08 biliwn.

Cafodd y comedïwr, Rowan Atkinson, hefyd ei urddo gyda CBE heddiw. Daeth yr actor i enwogrwydd am ei ran yn y  gyfres ddychanol Not The Nine O’Clock News a Blackadder ac yna creu’r cymeriad byd enwog, Mr Bean.

Cafodd yr athrawes ddrama, Anna Scher, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddysgu Kathy Burke, Phil Daniels, a Gary a Martin Kemp hefyd ei hurddo gydag MBE a chafodd y dylunwyr, Edward Barber a Jay Osgerby, wnaeth greu’r fflam Olympaidd ar gyfer y Gemau yn Llundain yn 2012 eu hurddo gyda OBE yr un.