Y Cymro, Alfred Russel Wallace
Nid Charles Darwin ond casglwr chwilod ifanc o Sir Fynwy sy’n gyfrifol am ddamcaniaeth esblygiad. Dyma fydd yn cael ei ddweud mewn rhaglen sy’n cymharu bywydau’r ddau ddyn ar S4C nos Sul.

Ganrif wedi marwolaeth y Cymro, Alfred Russel Wallace, bydd y rhaglen, Darwin, y Cymro a’r Cynllwyn yn ceisio profi sut y gwnaeth Darwin dwyllo a chuddio’r ffaith mai o lythyrau Wallace y daeth yr holl syniadau y tu ôl i’r ddamcaniaeth.

Mae cwestiynau wedi codi am gyfraniad Wallace ar hyd y blynyddoedd. Ond nos Sul, fe fydd llyfr am Wallace, Roy Davies, yn mynnu mai ei enw ef ddylai gael ei gysylltu gydag un o ddamcaniaethau pwysicaf gwyddoniaeth – ac y dylid unioni’r cam.

“Rydan ni wedi edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael ac mae prawf hanfodol, llythyrau lu, ar goll i brofi mae Darwin oedd yn gyfrifol am y ddamcaniaeth,” meddai Roy Davies wrth golwg360.

“Rydw i’n erbyn holl gefnogwyr Darwin pan dw i’n dweud hyn, ond maen nhw’n gwrthod trafod y peth pan maen nhw’n cael eu holi.”

Dadlau

Roedd Roy Davies yn arfer credu yn narganfyddiadau Darwin nes i Elin Rhys, cynhyrchydd y rhaglen, ddweud wrtho am y dadlau. Yn ôl Elin Rhys:

“Am y tro cyntaf ar deledu, fe gawn dystiolaeth ddamniol am yr amseroedd yr anfonodd Wallace lythyron tyngedfennol at Darwin, gan ddangos iddo ddweud celwydd am y dyddiadau y derbyniodd y wybodaeth a wnaeth drawsnewid ei syniadau.”

Ymhlith y cyfranwyr eraill i’r rhaglen mae’r Athro Deri Tomos o Brifysgol Bangor; Dr Elwyn Hughes, awdur llyfr am Alfred Russel Wallace ‘Y Gwyddonydd Anwyddonol’; a’r gwyddonydd Dr Catrin Williams.

Mae’r actor, Ioan Hefin wedi chwarae rhan Wallace yng nghynhyrchiad cwmni Theatr na nÓg, You Should Ask Wallace, ers pum mlynedd a bydd yn ail-greu golygfeydd o fywyd Wallace fel rhan o’r rhaglen nos Sul.