Ysbyty Llandoche
Mae staff a chleifion Ysbyty Llandoche ger Penarth ym Mro Morgannwg, yn nodi pen-blwydd y sefydliad yn 80 oed y penwythnos hwn.

A heddiw, fel rhan o’r dathliadau, fe fydd cleifion yn cael dewis bwyd oddi ar fwydlen debyg iawn i honno oedd ar gael yn y 1930au.

Fe agorodd yr ysbyty ei ddrysau yn 1933, ac mae’n dal i roi gofal iechyd i bobol o bob cwr o Gymru hyd heddiw.

Mae cyn-gleifion a chyn-weithwyr wedi anfon hen luniau, arteffactau a llythyrau yn llawn atgofion, ac mae’r rhain i gyd ar gael i’w gweld mewn “amgueddfa fyw” yn yr ysbyty.