Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru
Byddai’n well gan fwyafrif y Blaid Lafur glymbleidio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol na Phlaid Cymru, meddai arbenigwr ar y Blaid Lafur yng Nghymru, sydd yn rhybuddio bod “casineb pur” at Blaid Cymru yn fyw ac iach yn rhengoedd Llafur.

“Er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd yn San Steffan, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod yn fwy dymunol na Phlaid Cymru i’r mwyafrif o bobol Llafur”, meddai David Moon, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Sheffield..

“Efallai bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi symud tuag at y dde, a does dim llawer o ymddiriedaeth tuag atynt ymhlith aelodau Llafur. Ond mae rhywbeth yn fwy na hynny lle mae Plaid Cymru yn y cwestiwn.

“Ar ôl cydweithio mor agos gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad, efallai bod rhai yn y Blaid Lafur yn gyfforddus wrth weithio gyda Phlaid Cymru. Ond mae’n rhaid i chi ddeall y gwir gasineb sydd gan llawer o aelodau Llafur tuag at y cenedlaetholwyr.

“Ar y pryd, roedd yn benderfyniad rhyfeddol o ddadleuol i sefydlu clymblaid ‘Cymru’n Un’,” meddai David Moon, sydd wedi ysgrifennu astudiaeth academaidd ynglŷn â gwrthdaro’r cyfnod.

“Ond, beth sydd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw cyn lleied o anghydfod neu siarad mas yn erbyn y clymblaid sydd wedi bod. Rydym wedi cael ambell i ‘pop’ achlysurol, ond mae’n diddorol mai dim ond nawr mae’r anghytuno’n dechrau o ddifri.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror