Mae pobol ifanc yn torri’r gyfraith wrth anfon negeseuon rhywiol at ei gilydd ond heb sylweddoli hynny, yn ôl awdur sy’n paratoi drama newydd i bobol ifanc.

Mae Bethan Gwanas ac aelodau ifanc cwmni theatr Arad Goch wedi bathu enw newydd ar “ffenomenon” peryglus ymysg pobol ifanc.

‘Sexting’ yw’r gair Saesneg am yr arfer o anfon lluniau anweddus o bobol ifanc ar ffonau symudol.

‘SXTO’ yw enw cynhyrchiad newydd Bethan Gwanas ar y cyd ag Arad Goch a Chyngor Sir Gaerfyrddin, sy’n cael ei baratoi yn sgil pryder ymysg athrawon, rhieni a’r heddlu am y broblem.

Mi fuodd yr awdur o Ddolgellau a’r cyfarwyddwr ifanc Angharad Lee yn ymweld ag ysgolion uwchradd yn y de, yn holi pobol ifanc rhwng tua 14 a 16 oed am achosion o ‘sexto’.

“Os nad oedden nhw wedi cael eu heffeithio eu hunain,” meddai Bethan Gwanas, “roedd o wedi digwydd i rywun o’n nhw’n ei nabod. Mae’r peth yn fwy nag ydan ni’n sylweddoli.

“Mae hwn yn sicr yn ffenomenon cymdeithasol ymysg pobol ifanc sy’n tyfu mewn ffyrdd fyswn i i byth wedi dychmygu.”

• SXTO (Arad Goch) ar daith 22 perfformiad am bum wythnos, yn dechrau o Chwefror 28

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror