Elin Jones
Mae prinder olew fforddiadwy eisoes yn dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth y Cynulliad, yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig. Ac yn ôl Elin Jones, bydd yn rhaid i ffermio Cymru addasu at y dyfodol.

“Efallai nad yw peak oil wedi ymddangos ar flaen unrhyw dudalen o bolisi llywodraeth. Ond  yn y dadansoddi cefndir, y mae paratoi ar gyfer cyfnod pan fydd olew i bob pwrpas yn mynd yn rhy ddrud i fod yn fewnbwn i gymaint o wahanol agweddau o fywyd”, meddai Elin Jones.

Eisoes eleni, mae gwefan Wikileaks wedi cyhoeddi dogfennau cyfrinachol sydd yn awgrymu bod cyfanswm yr olew o dan dir Saudi Arabia hyd at 40% yn llai na’r hyn oedd yn cael ei dybio’n gyhoeddus.

Yr wythnos hon, mae mudiad Fair Fuel wedi dadlau bod y cynnydd ym mhrisiau tanwydd yn creu “storom berffaith” wrth i fodurwyr fethu â dygymod a’r sefyllfa. Ac mae Elin Jones wedi cadarnhau bod pris tanwydd yn rhan annatod o agenda’r llywodraeth.

“Dw i ddim yn meddwl bod trafodaethau uniongyrchol wedi bod, ond rwy’n meddwl bod pob maes polisi o ran defnydd tir a chreu bwyd a chreu egni, yn gorfod edrych ar sut r’yn ni’n gwneud cynhyrchion ni yn fwy cynaliadwy.

“Dros y 50-100 mlynedd nesaf bydd yn rhaid i ffermwyr Cymru ac i lywodraeth edrych ar sut r’yn ni’n gallu datblygu ein hamaethyddiaeth heb ddibynnu ar olew a chynhyrchion olew.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror