Mae llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas wedi defnyddio gweithdrefnau’r Cynulliad er mwyn sicrhau mwy o graffu ar bolisi Llywodraeth Cymru i gosbi rhieni disgyblion sydd yn chwarae triwant.

Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru fod ei blaid wedi gwrthwynebu’r polisi “adweithiol” o’r cychwyn am ei fod yn “ceisio cosbi pobl sydd angen cefnogaeth.”

Yn ôl Simon Thomas gwell fyddai rhoi cefnogaeth i athrawon, megis hyfforddiant ar asesu perfformiad disgyblion, neu gamu i mewn pan fod disgyblion angen mwy o gefnogaeth.

Dywedodd Simon Thomas: “Fe wyddom fod llawer mwy o absenoldeb mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn. Mae Plaid Cymru eisiau torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel yn yr ysgol, ond er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i ni ymdrin â’r pwnc yn uniongyrchol.

“Mae Plaid Cymru yn glir nad cosbi rhieni yw’r ateb. Mae plant sy’n triwanta yn aml yn dod o gefndiroedd tlotach, a byddai dirwyo’r rhieni hyn yn ddim mwy na chosb i bobl fregus.”

‘Cefnogi – nis cosbi’

Ychwanegodd yr AC: “Fe ddylai’r llywodraeth yn hytrach fod yn ystyried ffyrdd o fynd i’r afael â thriwantiaeth trwy gefnogi pobl. Gall agweddau fel defnyddio swyddogion cyswllt ysgol-cartref a gwell cyfathrebu rhwng ysgolion a theuluoedd fod yn effeithiol iawn o ran codi lefelau presenoldeb.

“Mae angen i ni alluogi athrawon i asesu perfformiad disgyblion a chyrchu cefnogaeth ychwanegol lle mae ei angen. Un agwedd bwysig y dylai Llywodraeth Cymru adolygu yw lefelau llythrennedd disgyblion nad ydynt yn mynd i’w dosbarthiadau.

“Mae triwantiaeth yn aml yn symptom o broblemau ehangach, felly mae’n sinigaidd ac yn or-syml i feddwl bod modd ei drin trwy gosbau ariannol.

“Er mai prin golli’r bleidlais ar egwyddor dirwyo rhieni a wnaethom, rwyf eisiau clywed gan y Gweinidog sut y bydd yn sicrhau na chaiff y system hon ei chamddefnyddio i hybu bandio yn artiffisial (tablau cynghrair) a sut y caiff y teuluoedd mwyaf bregus eu cefnogi yn hytrach na’u cosbi.”