ukelele
Bydd y cerddor poblogaidd Alun Tan Lan yn cynnal gwersi ukelele anarferol ddydd Iau – i staff cylchoedd Mudiad Meithrin Sir Conwy.

Mae’r sesiwn hyfforddiant, fydd yn digwydd yn Venue Cymru yn Llandudno, yn rhan o gynllun a arianwyd gan Arian i Bawb er mwyn cynyddu nifer yr arweinyddion sy’n medru offeryn cerdd.

Dyfarnwyd grant o £4285.60 gan Arian i Bawb ym mis Ebrill i dalu am ukelele yr un i bob cylch Ti a Fi yng Nghonwy, ac i gomisiynu Alun Tan Lan i gyfansoddi 10 cân fer syml ar gyfer eu canu yn y cylchoedd ac i gynnal sesiynau hyfforddi.

Apelio i blant

Ac mae’r Mudiad Meithrin yn ffyddiog y bydd y fenter yn un llwyddiannus.

“Cafodd un sesiwn hyfforddi  ei gynnal cyn yr haf i un criw o arweinyddion, ac mi gawson ni andros o hwyl yn dysgu chwarae’r ukelele ac yn canu’r caneuon newydd,” meddai Delyth Jones, Swyddog Datblygu Conwy.

“Mae’r caneuon mae Alun wedi eu cyfansoddi inni yn wych – mae Alun ei hun yn dad i blant ifanc ac yn arweinydd cylch Ti a Fi Llanddoged, felly roedd o’n gwybod yn iawn sut fath o ganeuon fyddai’n addas ac yn apelio i’r plant.

“Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio gydag Alun ar y prosiect yma, ac mae’r prosiect yma’n  helpu cylchoedd y sir nid yn unig i ddysgu sgil newydd ond i gymdeithasu gyda’i gilydd hefyd.”

Prinder offerynwyr

Daeth galw am y prosiect yma wrth iddi ddod yn amlwg fod prinder ymysg arweinyddion y cylchoedd oedd yn gallu chwarae offeryn cerdd, a bod diffyg pianos mewn adeiladau ar gyfer y rheiny oedd yn medru’i canu.

Felly cafodd Alun Tan Lan y syniad am y gweithdy, gan fod y ukelele yn offeryn gymharol rad, yn hawdd i’w gludo o un lle i’r llall – ac, yn bwysicach fyth, yn hawdd iawn i’w feistroli.

“Mae’r prosiect yma’n llwyddo i gynyddu sgiliau a chreadigrwydd ar sawl lefel yn ein cylchoedd,” meddai Delyth Jones.

“Mae’r plant yn cael cyfle i gynyddu eu sgiliau cerddorol drwy ganu a chael cyfle i arbrofi gydag ukelele.”

Mae’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn hybu bwyta’n iach, cadw’n heini a thrwy hynny’n fodd o ddysgu, i gyfoethogi ac ymestyn Cymraeg y plant mewn modd hwyliog a naturiol.

Rhoddwyd copi o’r caneuon ar CD i bob cylch fel rhan o’r pecyn hyfforddi er mwyn annog a chefnogi’r staff i barhau i chwarae’r ukelele yn y cylchoedd yn dilyn yr hyfforddiant.