Cyn i Gyngor Ynys Môn gyfarfod i ail-drafod cais am barc gwyliau enfawr ger Caergybi, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr  y sir i roi ystyriaeth fanwl i effaith y datblygiad ar y Gymraeg.

Bydd y cyngor yn cyfarfod ar 6 Tachwedd i drafod y cais ar ôl iddyn nhw fethu a dod i gytundeb ynglŷn â’r  cynlluniau ar ddechrau mis Hydref.

Fe bleidleisiodd swyddogion o Bwyllgor Cynllunio’r cyngor o blaid datblygiad cwmni Land & Lakes, sydd eisiau codi tua 800 o fythynnod gwyliau ar dri safle gwahanol yn Ynys Môn.

Roedd cynghorwyr yn erbyn y cais ac yn dadlau y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol ac yn arwain at or-ddatblygu.

‘Niweidiol’

Mae canllawiau diwygiedig TAN20, a gafodd eu cyflwyno ar ddechrau’r mis, bellach yn dweud bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio, sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol, ystyried y Gymraeg fel rhan o’u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol.

Nid oedd hyn yn ofynnol pan oedd cwmni Land & Lakes yn cyflwyno eu cais i Gyngor Ynys Môn.

Dywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd: “Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol Ynys Môn, ac mi fydda unrhyw ddatblygiad sydd ddim yn cymryd hyn i ystyriaeth yn sicr o fod yn hynod o niweidiol i sefyllfa fregus y Gymraeg yn y sir.”

‘Cymryd mantais’

Ychwanegodd: “Dro ar ôl tro rydym yn gweld cwmnïau a datblygwyr yn cymryd

mantais o sefyllfa fregus economi Cymru er mwyn gwneud arian, yr unig bobol fydd yn elwa go-iawn o ddatblygiad Land & Lakes fydd Land & Lakes eu hunain.”

“Mae llunio strategaeth datblygu sy’n gynaliadwy nid yn unig i’r

Gymraeg ond hefyd i gymunedau’r sir yn hynod o bwysig, mae creu cyfleon gwaith yn un o’r pethau pwysicaf er mwyn sicrhau dyfodol i gymunedau Ynys Môn. Ond

rydym yn grediniol mai dim ond drwy ganfod atebion lleol, yn hytrach na dibynnu ar gwmnïau mawr o du allan i Gymru, y bydd gwir ddyfodol i’r Gymraeg a

chymunedau Cymraeg yn cael eu gwireddu.”

Gwrthdystio

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu protest y tu allan i swyddfeydd y cyngor yn Llangefni ar 6 Tachwedd, i gyd-fynd â’r cyfarfod.

“Mae’n rhaid datgan bod Cymru yn haeddu economi sy’n gweithio ac yn ateb i ofynion lleol yn hytrach na llenwi pocedi cwmnïau trachwantus o du allan i Gymru,” meddai Osian Jones.