Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r amserlen ar gyfer y set gyntaf o safonau’r Gymraeg heddiw.

Ym mis Mai’r llynedd, cyhoeddwyd y byddai rheoliadau i gyflwyno’r set gyntaf o safonau yn cael eu gwneud erbyn diwedd 2014.

Mewn perthynas ag Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad safonau.

Cyhoeddodd Carwyn Jones yr amserlen heddiw i amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i wneud y rheoliadau.

Cwmnïau preifat

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan pryder nad oes amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmnïau preifat a chyrff eraill.

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi hyd at Chwefror 1 i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i sefydlu hawliau drwy’r safonau Iaith.

Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog gyflawni hawliau i’r cyhoedd er mwyn i bawb gael byw yn Gymraeg – hawliau megis yr hawl i weithgareddau hamdden ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio yn y gweithle, a’r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

“Dyna’r ffordd i gyflawni strategaeth iaith y Llywodraeth a’i ddymuniad i gynyddu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifanc.

“Addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith y bydden nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector cyhoeddus. Felly, ble mae’r amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmnïau preifat a chyrff eraill?”

‘Oedi sylweddol’

Wrth ymateb i’r amserlen, dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg: “Mae’n hen bryd y gwelwn ganlyniadau yn sgil pasio Mesur yr Iaith Gymraeg.

“Mae oedi sylweddol wedi bod yn yr amserlen ers i’r Prif Weinidog fabwysiadu’r cyfrifoldeb am y Gymraeg ac mae cwblhau o fewn y terfynau a roddwyd yn edrych yn llai tebygol bob wythnos.

“Cred Plaid Cymru y dylai bod safonau ar gyfer pob corff oedd yn dod dan hen Ddeddf yr Iaith Gymraeg yn ogystal ag ystyried meysydd newydd megis telegyfathrebu.”

‘Does dim oedi’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dywedodd y Llywodraeth ym mis Mai 2013 y byddai’r rheoliadau ar gyfer y set gyntaf o safonau yn cael eu gwneud cyn diwedd 2014. Dyma’r sefyllfa o hyd – does dim oedi.

“O’r dechrau, bwriad y Llywodraeth  oedd y byddai’r set gyntaf o safonau yn rhoi dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol, ac awdurdodau parciau cenedlaethol, gan fod y rhain yn sefydliadau â dylanwad eang.

“Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi manylion rhaglen i ymchwilio i safonau ar gyrff pellach yn fuan.”