Georgia Ruth
Y gantores a’r delynores Georgia Ruth sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Enillodd y wobr am ei halbwm, ‘Week of Pines’, a gafodd ei ryddhau ym mis Mai.

Cafodd y wobr, sy’n cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn, ei lansio yn 2011 gan y DJ Radio 1 Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron.

Cafodd ‘Week of Pines’ sylw mawr yn y wasg Brydeinig ac fe gafodd Georgia ei henwi’n Favourite New Band gan Steve Lamacq ar BBC 6 Music a New Favourite Thing y DJ Jo Whiley ar Radio 2.

Cafodd y wobr ei sefydlu fel rhan o Ŵyl Sŵn, un o wyliau cerddorol annibynnol mwya’ Prydain, sy’n yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.

Nod y wobr yw dathlu’r gerddoriaeth newydd orau sy’n cael ei greu yng Nghymru neu gan Gymry o amgylch y byd wrth wobrwyo’r albwm orau sydd wedi ei chyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn 2012, Future of the Left enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm ‘The Plot Against Common Sense.’ ‘Hotel Shampoo’ gan Griff Rhys aeth a’r wobr yn 2011.

Eleni, cafodd 12 o fandiau eu henwebu gan gynnwys Euros Childs, Fist of the First Man, Trwbador, Racehorses, Neon Neon a Sweet Baboo.