Capten Cymru, Aaron Ramsey sgoriodd i gipio gêm gyfartal
Gwlad Belg 1 – 1 Cymru

Llwyddodd Cymru i gipio gêm gyfartal ym Mrwsel heno, gan sbwylio parti enillwyr y grŵp, Gwlad Belg.

Roedd Cymru’n chwarae oddi-cartref yn erbyn enillwyr Grŵp A yng ngêm olaf eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn Rio y flwyddyn nesaf.

Er fod Gwlad Belg yn un o dimau gorau’r byd ar hyn o bryd, llwyddodd y Cymry i ddal eu tir yn yr hanner cyntaf, ac roeddent yn haeddu bod yn gyfartal wedi 45 munud.

Er hynny doedd dim syndod fod y tîm cartref yn edrych yn beryglus, ac fe ddaethon nhw’n agos sawl gwaith wrth iddynt wrth-ymosod.

Tarodd y cefnwr chwith Toby Alderweireld y trawst gyda foli, tra bod ymosodwr Everton Romelu Lukaku wedi dod yn agos deirgwaith – y cyfle gorau gyda pheniad ar ôl 39 munud.

Er hynny llwyddodd Cymru i greu hanner cyfleoedd i’w hunain – ergydiodd Hal Robson-Kanu wedi rhediad cryf ar ôl 41 munud.

Roedd apêl gref am gic o’r smotyn i Gymru ar yr hanner wrth i Daniel Van Buyten wthio Simon Church yn y cwrt.

Ail hanner

Os oedd y tîm cartref yn edrych yn beryglus yn yr hanner cyntaf, yna roedden nhw’n beryg bywyd yn yr ail!

Wrth i’r Cymry flino dechreuodd Gwlad Belg reoli’r gêm.

Doedd colli eu craig yn yr amddiffyn, James Collins, i anaf wedi 55 munud ddim yn help – daeth James Wilson o Cheltenham yn Ail Adran Cynghrair Lloegr i’r cae yn ei le i ennill ei gap cyntaf yn erbyn chweched detholion y byd.

Yn anffodus i Wilson, bu i’w ymddangosiad cyntaf droi’n hunllef wedi deg munud wrth i chwaraewr Chelsea, Kevin De Bruyne fanteisio ar gamgymeriad yr amddiffynwr i roi’r tîm cartref ar y blaen wedi 64 munud.

Brwydro hyd y diwedd

Roedd hyder Gwlad Belg yn uchel erbyn hyn a’r cefnogwyr yn codi llais wrth iddynt greu cyfle ar ôl cyfle – Wayne Hennessey yn y gôl oedd seren y gêm i Gymru yn cael ei orfodi i arbed yn dda sawl gwaith.

Er tegwch i’r Cymru, er bod yr holl elfennau yn eu herbyn fe wnaethon nhw ddal ati i frwydro tan y diwedd, a daeth eu gwobr.

Yn ei gêm olaf dros ei wlad roedd Craig Bellamy’n achosi problemau ar yr asgell chwith i’r tîm cartref wrth nesau at y chwiban olaf – bu ond y dim iddo dynnu’r bêl yn ôl i gyd-chwaraewyr yn y cwrt wedi rhediad da gyda deuddeg munud yn weddill.

Funud yn ddiweddarach roedd Bellamy’n anlwcus i beidio ennill cic rydd ar ymyl y cwrt wedi rhediad da arall, ond eiliadau’r ddiweddarach daeth cyfle gwych i’r ymwelwyr o gic rydd yr ymosodwr wrth i Wlad Belg ei chael hi’n anodd clirio yn y cwrt.

Daeth chwaraewr canol cae Lerpwl, Harry Wilson i’r cae gyda phedair munud yn weddill gan dorri record Gareth Bale am fod y chwaraewr ieuengaf i chwarae dros Gymru yn 16 mlwydd a 207 o ddyddiau oed.

Doedd dim llawer o gyfle i Wilson greu argraff, ond o fewn munud i’w ymddangosiad o’r fainc roedd ei dîm yn gyfartal. Cydweithiodd dau seren mwyaf Cymru, Bellamy a Ramsey’n wych yn y cwrt cyn i’r capten ergydio trwy goesau’r golwr.

Efallai mai Gwlad Belg oedd y tîm gorau ar y noson, ond roedd Cymru’n llawn haeddu’r pwynt a’r clod am eu hymdrech. Er na sgoriodd Bellamy yn ei gêm olaf, wrth greu dwy gôl ei wlad yn eu dwy gêm olaf o’r grŵp does dim amau ei fod wedi gwneud cyfraniad mawr i sicrhau diweddglo parchus i’r ymgyrch.

Tîm Cymru: Hennessey, Richards, Taylor, Vaughan, Gunter, Collins (J. Wilson), King, Bellamy, Church (Vokes), Ramsey, Robson-Kanu (H. Wilson)