Holyrood yn yr Alban
Mae Llywodraeth yr Alban wedi helpu ariannu adnodd newydd gyda’r nod o ddyblu nifer y plant sy’n siarad Gaeleg yn y wlad erbyn 2017.
Cafodd y pecyn Fios is Freagairt (Gwybodaeth ac Atebion) ei lansio gan Bod na Gaidhlig, sy’n hyrwyddo’r iaith Gaeleg, yn Paisley yr wythnos hon.
Mae’r pecynnau wedi eu hanelu at ddarpar athrawon a rhieni sydd am i’w plant ddysgu Gaeleg.
Mae’r pecyn yn cynnwys CDau, DVDau a gwybodaeth ysgrifenedig sy’n sôn am yr adnoddau addysg sydd ar gael drwy gyfrwng y Gaeleg gyda’r nod o hybu dwyieithrwydd.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Gweinidog Ieithoedd yr Alban, Dr Alasdair Allan, fod Llywodraeth yr Alban wedi clustnodi £21,000 ar gyfer y cynllun.
Rhan o Gynllun Gaeleg Cenedlaethol Llywodraeth yr Alban yw dyblu nifer y plant sy’n dysgu Gaeleg o 400 i 800 erbyn 2017.