Mae hi’n ddiwrnod Shwmae, Su’mae! heddiw – diwrnod cenedlaethol i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg ac i ddathlu’r iaith.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r diwrnod gael ei drefnu gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg gyda’r bwriad o wneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd yn dysgu’r iaith.

Mae llu o weithgareddau wedi eu trefnu ledled Cymru er mwyn hybu pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol. Fel rhan o hynny bydd y rhaglen gyfrifiadurol Skype ar gael yn Gymraeg a bydd Coleg Ceredigion yn cynnal gweithdai rap gydag Aneurin Karadog ar gampws Aberteifi a beatbocsio gyda Mr Phormula sef Ed Holden ar gampws Aberystywth, i geisio hybu’r Gymraeg ymysg myfyrwyr yr ardal.

Yn ôl Jaci Taylor o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth: “Mae cefnogaeth Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn wirioneddol wych a phawb am sicrhau bod Diwrnod Shwmae, Su’mae! yn ddiwrnod i’w gofio.”

Gall pobol ddilyn cyfrif Trydar  y digwyddiad https://twitter.com/ShwmaeSumae, er mwyn dod o hyd i ddigwyddiadau yn eu hardal nhw.