Mae Mentrau Iaith Cymru ymysg y cyrff sy'n pryderu am doriadau ariannol y Llywodraeth
Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg wedi mynegi pryder y gall fod llai o arian ar gael ar gyfer hyrwyddo’r iaith.

Maen nhw wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gofyn am wybodaeth pellach ynglŷn a’r arian sydd wedi ei glustnodi at y Gymraeg yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth.

Meddai Penri Williams ar ran Mudiadau Dathlu’r Gymraeg:

“Mae’n fater o bryder i ni fod y cyllid drafft yn awgrymu y bydd lleihad o £700,000 yn yr arian ar gael i gefnogi’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd er mwyn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

“Yn dilyn canlyniadau pryderus y cyfrifiad yng nghyswllt y Gymraeg a’r angen i wireddu strategaeth y llywodraeth ar ei chyfer, mawr yw ein diddordeb yn y cyllid a fydd ar gael er mwyn cefnogi’r iaith.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth er mwyn i ni ddeall yn well beth yw eu gweledigaeth o safbwynt y Gymraeg, a’r disgwyliadau sydd wedi eu codi yn sgil y Gynhadledd Fawr.”

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn grŵp sy’n cynnwys amrywiaeth o fudiadau yng Nghymru gan gynnwys Mentrau Iaith Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith, yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.