Rhys Ifans
Bydd Rhys Ifans yn cymryd rhan mewn perfforniad arbennig i gyflwyno cerddorfa i blant yn Llandudno wythnos nesaf.

Mae Blaidd Pedr yn stori am fachgen mentrus a blaidd cas ac mae hi’n adnabyddus i blant ar draws y byd ond dyma’r tro cyntaf i’r stori gael ei pherfformio yn y Gymraeg.

Mewn digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher bydd Ensemble Cymru’n perfformio’r gerddoriaeth hudol gyda llais Rhys Ifans yn adrodd y stori sydd wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg gan y bardd Gwyn Thomas. Bydd delweddau gan y darlunydd Marc Vyvyan Jones i’w gweld ar sgrîn yn ystod y perfformiad hefyd.

Yn ymuno â sioe Rhys a Pedr yn Venue Cymru mae un o gymeriadau gwasanaeth Cyw S4C, Dona Direidi.

Bydd y perfformiad o Pedr a’r Blaidd, sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan yn cael ei ffilmio ar y diwrnod a’i ddarlledu ar S4C ddydd Nadolig eleni a bydd Ensemble Cymru wedyn yn mynd a’r sioe ar daith yn y flwyddyn newydd.

Clasur enwog Prokofiev

Cyfansoddwyd y darn gan Sergei Prokofiev yn 1936 a bwriad y cyfansoddwr o’r Wcráin oedd creu darn fyddai’n cyflwyno’r gerddorfa i blant am y tro cyntaf.

Aeth ati i wneud hynny gan roi offeryn penodol i gynrychioli pob cymeriad yn y stori; y ffliwt ydi’r aderyn, yr obo ydi’r hwyaden, y gath ydi’r clarinét a’r baswn ydi’r tad cu. Tri chorn Ffrengig sy’n cynrychioli’r blaidd cas, tra bod llinynnau’r gerddorfa yn cynrychioli Pedr, a’r drwm bas a’r tympani yw’r heliwr ac ergydion ei wn hela.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynnydd Cynnwys S4C: “Pan laniodd y syniad yma ar fy nesg wnes i ddim darllen yr ail baragraff hyd yn oed – roeddwn i’n gwybod yn syth fy mod i eisiau i’r rhaglen hon gael ei chomisiynu.

“Mae’n syniad mor gyffrous a diddorol, a mi fydd yn wych i ni gael y clasur yma yn y Gymraeg o’r diwedd, a hynny gyda Dona Direidi a Rhys Ifans yn rhan o’r sioe! Mi fydd yn ffordd wych i ni gyflwyno gwasanaeth Cyw S4C i gynulleidfa newydd hefyd.”