Fe fydd y cloc yn troi’n ôl dros y penwythnos wrth i ŵyl Tyrfe Tawe gael ei chynnal yn Abertawe ddeng mlynedd ers yr ŵyl gyntaf erioed yn y ddinas.

Mae’r ŵyl wedi tyfu eleni i gynnwys gŵyl gwrw. Mae’r ‘Cyrfe’ yn y poster yn golygu mwy nag un cwrw – yr hen air am cwrw oedd cwrwf yn y  deuddegfed ganrif a’r lluosog oedd cyryfau, a hwnnw wedi troi’n cyrfau. Yn ôl un o’r trefnwyr roedd y gair yn odli’n gyfleus iawn gyda ‘Tyrfe’! Eleni fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn ei chartref ysbrydol yng Nghanolfan Tŷ Tawe.

Meic Stevens a chomedi Dai Lloyd

Cafodd y Tyrfe Tawe gwreiddiol ei chynnal dros bedair noson naw mlynedd yn ôl mewn amryw leoliadau yn y ddinas a’r ŵyl flynyddol yn rhan o galendr digwyddiadau Cymraeg Abertawe.

Ymhlith yr artistiaid eleni fydd sesiwn werin gyda Bandarall a Meic Stevens, Lowri Evans ac Olion Byw ynghyd a chomedi gan Dai Lloyd yno ar y dydd Sadwrn.

Ar hyd y blynyddoedd, mae Tyrfe Tawe wedi denu rhai o enwau mwyaf y sîn roc Gymraeg, gan gynnwys Frizbee, Sibrydion, Genod Droog a Derwyddon Dr Gonzo. A’r penllanw i’r trefnwyr oedd  cael enwebiad yng nghategori ‘Digwyddiad Byw Gorau’ yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru.

Amrywiaeth o ‘gyrfe’

Dros y penwythnos, fe fydd amrywiaeth eang o ‘gyrfe’ a seidr ar gael, gan gynnwys Tomos Watkin, Gower Gold, Gwynt y Ddraig a nifer o frandiau Cymreig eraill.

“Braf yw mynd â’r Cyrfe yn ôl i gartref gwreiddiol Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe,” meddai un o brif sylfaenwyr Tyrfe Tawe a chadeirydd yr ŵyl, Catrin Rowlands, “ac o wneud hynny, rydym yn gallu arbrofi unwaith yn rhagor â fformat yr ŵyl a cheisio cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Mae hynny wedi cynnig her newydd i ni fel trefnwyr, ond her ddymunol iawn o ddewis y cyrfe yn ogystal â’r perfformwyr ar gyfer Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe!

“Dewch yn llu, ond dewch yn gynnar – rhag i chi gael eich siomi fod y gasgen yn wag a’r tŷ yn orlawn!”

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe – Tŷ Tawe, Abertawe nos Wener, Hydref 11 am 5pm a dydd Sadwrn o hanner dydd (£5 yn cynnwys gwydryn ‘Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe’) www.tyrfe.com <http://www.tyrfe.com>.

(Poster: Arwel Micah)