Senedd Cymru
Mae angen i’r Cymry Cymraeg ystyried o ddifrif sefydlu ‘senedd’ i’w cynrychioli o fewn y drefn wleidyddol yng Nghymru, er mwyn cael “hunanreolaeth”.

Dyna’r awgrym gan yr academydd Ned Thomas mewn llyfr newydd o ysgrifau gan wahanol feddylwyr “i gynorthwyo’r gwrthsafiad yn erbyn dadfeiliad y Gymru Gymraeg”.

Yn ei gyfraniad i Pa beth yr aethoch allan i’w achub?, sef y gyfrol gyntaf yn ymateb i ganlyniadau digalon Cyfrifiad 2011 o safbwynt yr iaith Gymraeg, mae’r dyn fu’n ceisio sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn ôl gyda syniad sy’n seiliedig ar ei brofiad diweddar yn Y Ffindir.

Yno mae gan siaradwyr Swedeg y wlad eu Folketinget, sefydliad cynrychioladol sy’n craffu ar bolisïau Llywodraeth Y Ffindir gan ychwanegu eu ceiniogwerth pan fo’r angen yn codi.

Tra’n gweld gwerth yn nhrefn Y Ffindir, mae Ned Thomas wedi pwysleisio wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon bod angen astudio gwahanol wledydd o gwmpas y byd sy’n gartref i leiafrifoedd ieithyddol, a mynd ati i fenthyca’r gorau o bob esiampl.

“Yn Y Ffindir, yr un pryd ag etholiadau lleol, mae’r cymunedau Swedeg yn ethol pobol, ac wedyn mae’r rhain yn cyflogi swyddfa sy’n rhoi sylwadau ar pob deddf o safbwynt y cymunedau Swedeg,” eglura Ned Thomas.

“Felly mae’n nhw’n gwneud beth mae Dyfodol [i’r Iaith] a Chymdeithas yr Iaith yn geisio ei wneud [yma yng Nghymru]. Rhyw fath o fonitro, ond mae ganddyn nhw fwy o hawl i siarad dros y cymunedau.”

Cam cyntaf

Y cam cyntaf yng Nghymru fyddai i’r Cymry Cymraeg ddechrau galw eu hunain yn ‘gymuned ieithyddol’, ac yna ethol cynrychiolwyr, yn hytrach na dibynnu ar Gymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chymuned.

“Y syniad o gael ryw elfen etholedig yw ei fod o’n rhoi rhyw legitimacy i’r grwpiau sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn gymunedol, ac wedyn bod rhain efo’r hawl i ddadlau am y polisïau.

“Mae yna elfen o hunanreolaeth yn dod fewn, yn hytrach na bod Llywodraeth yn dewis gwrando ar rhai grwpiau, ddim yn gwrando ar eraill.”

Diffinio tiriogaeth y Gymraeg

Mae angen bod “pobol yn medru diffinio, mewn ffordd diriaethol, beth yw cymunedau Cymraeg” meddai Ned Thomas, er mwyn  gwarchod y Gymraeg yn yr ardloedd lle mae hi’n parhau ar ei chryfaf.

“Fydde gallu dweud, pan rydych chi’n dewis lle i fyw o fewn rhyw gylch o’ch gwaith, os ydych chi’n mynd [i fyw] i’r fan yna eich bod yn atgyfnerthu lle, lle maen nhw wedi penderfynu galw eu hunain yn gymuend Gymraeg a chael sefydliadau Cymraeg.

“Pan ddaw hi i gefnogi pethau’n ariannol, fydde gwybod eich bod chi’n cyfrannu at adeiladu’r gymuned yna…bod chi eich hun am wneud pethau.”

Mwy gan Ned Thomas yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.