Carl Sargeant
Mae canllawiau ar sut y dylid ystyried y Gymraeg fel rhan o’r system gynllunio wedi’u diweddaru, fe gyhoeddodd  y Gweinidog Tai ac Adfywio heddiw.

Mae’r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 diwygiedig yn adlewyrchu trafodaethau a gafwyd yn y Gynhadledd Fawr.

Cafodd y drafodaeth genedlaethol ar y Gymraeg ei hysgogi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad yn yr haf, a oedd yn dangos cwymp yn nifer  y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant: “Mae’r TAN diwygiedig hwn yn rhoi eglurder i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai ystyriaethau yn gysylltiedig â’r Gymraeg gael eu bwydo i’r gwaith o baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

“Mae’r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o’u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol. Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori â’r Comisiynydd Iaith wrth baratoi ac adolygu’r Cynllun.

“Fel hyn, bydd awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru’r effaith y gallai datblygiadau newydd ei chael ar y Gymraeg.”

‘Codi cwestiynau’

Ond dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws bod y datganiad heddiw yn codi nifer o gwestiynau.

“Mae cael trefn gadarn ac eglur i ystyried y Gymraeg yn y broses gynllunio o’r pwys mwyaf, ac yr wyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru sawl gwaith i ddiwygio’r Nodyn Cyngor presennol.

“Mae datganiad y Gweinidog heddiw yn codi nifer o gwestiynau; er enghraifft beth fydd yn digwydd hyd nes bod y ‘canllaw ymarferol pellach’ yn cael ei gyhoeddi? Beth sydd yn digwydd i’r cynlluniau datblygu lleol sydd yn yr arfaeth?

“Byddaf yn mynd ati nawr i drefnu cyfarfod buan gyda’r Gweinidog a’i swyddogion i geisio atebion i’r cwestiynau uchod a mwy.”

‘Gwendidau’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod “gwendidau” cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.

Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun datblygu lleol].”

Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones nol ym mis Awst eleni.
‘Lladd y Gymraeg’

Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd. Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl, ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru.

“Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau datblygu lleol yn barod, a dyw’r canllawiau ddim yn delio â’r broblem honno. Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones. Mae’r ffaith bod y nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn rhyfedd iawn. Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”