Nid yw rhybuddion a lluniau ar bacedi sigarét wedi llwyddo i leihau’r apêl o ysmygu i bobol ifanc Cymru, yn ôl arolwg gan Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dim ond 24% o bobol ifanc rhwng 13-18 oed sydd wedi penderfynu peidio ag ysmygu oherwydd y dyluniadau newydd, o’i gymharu â 48% o bobol ifanc Awstralia.

Bydd y Senedd Ewropeaidd yn pleidleisio yfory dros ddeddfwriaeth a fyddai’n gweld darluniau mwy a rhybuddion ar ddwy ochr pacedi sigaréts.

Cynllun i Gymru

Dangosodd adolygiad gan Action on Smoking a Health Wales fod economi Cymru ar ei cholled o £800 miliwn oherwydd effeithau ysmygu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford ei fod yn ymchwilio i weld a yw’n bosib i Gymru ddilyn ei thrywydd ei hun o ran gwerthu pacedi sigarets plaen, wedi i Lywodraeth Prydain ohirio cynlluniau i wneud hynny yn gynharach eleni.

“Roeddwn wedi fy siomi bod y cynlluniau yr oedden ni’n meddwl oedd yn digwydd heb eu cynnwys yn rhaglen Llywodraeth Prydain.

“Rwyf wedi gofyn i swyddogion a’r Prif Swyddog Meddygol beth sydd o fewn ein gallu i gyflwyno’r cynlluniau yma ein hunain.”

‘Arbed cenedlaethau’r dyfodol’

Yn ôl Simon Gillespie, prif weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru:

“Mae’r neges gan bobol ifanc Cymru yn glir: nid yw’r rhybuddion iechyd presennol yn gweithio a bydd rhaid i Brydain gyflwyno camau i gyflwyno pacedi o safon i wneud hynny.

“Mae ysmygu yn lladd 6,000 o bobol yng Nghymru bob blwyddyn a gallwn ni ddim disgwyl rhagor am ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid i Brydain weithredu i arbed cenedlaethau’r dyfodol rhag mynd yn gaeth i’r arfer.”

Mae oddeutu dosbarth llawn o blant yn dechrau ysmygu bob diwrnod yng Nghymru yn ôl Elen de Lacy, prif weithredwr ASH Cymru.

“Nid yw ysmygu yn ffasiynol ac mae’n anghywir fod cynnyrch sy’n lladd hanner ei ddefnyddwyr yn cael ei werthu mewn pacedi deniadol,” meddai.