Mae daearyddwr wedi dweud bod modd defnyddio dulliau mapio i helpu i ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg.

Bydd  Yr Athro Rhys Jones yn cyflwyno ei ddadl yn Narlith Goffa Henry Lewis ar ‘Ddaearyddiaethau’r Iaith Gymraeg’ ym Mhrifysgol Abertawe nos Fawrth.

Mae’n honni y byddai defnyddio technegau daearyddol i ehangu dealltwriaeth o effaith negyddol a chadarnhaol datblygiadau fel tai, priffyrdd a lleoliad ysgolion ar yr iaith.

‘Mapio ystadegol’

Meddai’r Athro Rhys Jones, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:  “Ers y 1950au, mae’r gwaith ymchwil ar sefyllfa’r iaith Gymraeg wedi canolbwyntio ar ddefnyddio ffigurau’r Cyfrifiad i ddangos y ‘sifft’ sydd wedi bod yn yr iaith yn y cadarnleoedd, ac i greu mapiau o’r newidiadau yn nifer y siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd o’r Gymraeg.

“Er bod rôl i hyn, rwy’n dadlau bod angen meddwl am ddaearyddiaeth yn ehangach a sut allwn ni ddefnyddio technegau mapio ystadegol manwl iawn, yn cynnwys lleoliad tai, priffyrdd, diwydiannau ac ysgolion i ddeall a dadansoddi dylanwad y ffactorau hyn ar ddefnydd y Gymraeg.”

Dywedodd hefyd ei fod yn cytuno â sylwadau diweddar Prif Weinidog Cymru ynglŷn â phwysigrwydd edrych ar ddefnydd yr iaith. Mae Carwyn Jones am weld mwy o ymchwil i’r hyn sy’n dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg i beidio â defnyddio’r Gymraeg a sut mae newid hynny.

‘Newid ymddygiad’

“Mae potensial i ddefnyddio technegau i newid ymddygiad pobl, er enghraifft fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru gyda rhoi organau, lle mae polisïau wedi eu fframio er mwyn newid neu roi ‘hwb’ i ymddygiad. Rwy’n credu bod modd i ni wneud yr un peth gyda’r defnydd o’r iaith, a newid amgylchiadau er mwyn newid arferion pobol.

“Ar lefel syml iawn, mae defnyddio bathodynnau sy’n dangos siaradwyr Cymraeg mewn siopau neu mewn ysbytai yn gallu annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Mae angen mwy o syniadau cynnil fel hyn i arwain pobol i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Bydd y ddarlith nos fory yn coffau Henry Lewis, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 1921. Roedd yn adnabyddus fel ieithydd ac am ei gyfraniad at hanes yr iaith Gymraeg a’i gyhoeddiad pwysig Datblygiad yr Iaith Gymraeg.

Trefnir y Ddarlith gan Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.