Y mis hwn bydd diwrnod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Bydd diwrnod ‘Shwmae, Su’mae’ yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Hydref ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn “gyfle i ni atgyfnerthu a dathlu’r Gymraeg”.

Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg – grŵp ymbarél sydd am ddathlu llwyddiant yr iaith.

Yn ôl y trefnwyr mae’r “Gymraeg yn perthyn i bawb” ac maen nhw eisiau i bobl ddefnyddio’r iaith ymhob man. Felly, maen nhw’n annog sefydliadau, cwmnïau ac unigolion i drefnu digwyddiad i nodi’r diwrnod.

Mae Cyfeillion y Ddaear, Prifysgol Aberystwyth a sawl un o’r Mentrau Iaith eisioes wedi trefnu digwyddiadau ac mae rhagor o wybodaeth am y diwrnod ar gael ar y wefan: http://www.shwmae.org/