Y ddiweddar Sian Owen (Llun: Karen Owen)
Bu farw’r bardd, y gwyddonydd, y cyfieithydd a’r nofelydd, Sian Owen o bentre’ Marianglas ym Môn.

Roedd hi’n 48 oed, ac wedi bod yn brwydro canser yn ddewr ac urddasol ers rhai blynyddoedd.

Sian Owen oedd y ferch gynta’ erioed i gael ei chodi’n Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Môn, a bu’n arwain prif seremoniau’r wyl daleithiol honno er 2011. Ei enw yng ngorsedd oedd Sian Penllyn.

Cyhoeddodd un nofel – Mân Esgyrn – a gyrhaeddodd restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Ond er ei gallu llenyddol, yn aelod o dim talwrn Bro Alaw yn y gyfres ar Radio Cymru, gwyddoniaeth oedd ei chariad cyntaf, a Ffiseg oedd ei phwnc.

Mae’n gadael gwr a thri o blant.