Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd
Bydd cynhadledd i hyrwyddo ieithoedd, economi a chymunedau’r gwledydd Celtaidd yn cael ei chynnal ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog fis Tachwedd.

Wedi ei threfnu gan Antur Stiniog a Phrosiect Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd), bydd y ‘Gynhadledd Ban-Geltaidd’  sy’n para am dri diwrnod, yn trafod cyfoeth ac etifeddiaeth ddiwylliannol gyda sgyrsiau gan gynrychiolwyr o Gymru, Yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw.

Dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd gael ei chynnal yng Nghymru ac yn ôl Twm Elias o Blas Tan y Bwlch, fe ddaeth y syniad wedi i griw o gerddwyr o Flaenau Ffestiniog ddangos diddordeb mewn cynnal teithiau hanesyddol ac amgylcheddol yn yr ardal.

“Roedd y criw yn awyddus iawn i ddysgu mwy am ddaeareg, ecoleg, hanes a thraddodiad ac fe feddylion ni am wahodd y gwledydd Celtaidd i ddod i drafod eu cymunedau nhw hefyd.”

Teithiau a thrafod

Bydd cyfle i ymweld â chanolfannau treftadaeth Yr Ysgwrn a Llys Ednowain yn Nhrawsfynydd, a Chanolfan Elis Wyn yn Harlech fel rhan o daith i gyflwyno’r “Gwir Eryri”.

Yn ystod y gynhadledd, bydd ‘Symposiwm’ ar y dydd yn anelu at baratoi cynllun i’r gwledydd Celtaidd gyd-weithredu yn y dyfodol a chynnal trafodaeth i rannu syniadau gan gynrychiolwyr.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn rannu a derbyn syniadau er mwyn cadw mewn cysylltiad â gweithredu ymhellach gyda’r gwledydd,” meddai Twm Elias.

Mae angen cysylltu hefo Twm Elias ym Mhlas Tan y Bwlch os am le yn y gynhadledd a fydd yn cael ei chynnal rhwng 18-21 Tachwedd.