Mae’r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddau berson gael eu hanafu mewn ymosodiad difrifol ym mhentre’ Deiniolen dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw i stad Hafod Oleu am 3:39 fore Sadwrn.

O ganlyniad i’r digwyddiad aethpwyd a dyn â dynes i’r ysbyty gydag anafiadau. Credir bod eu hanafiadau wedi cael eu hachosi gyda chyllell.

Cafodd tri dyn lleol eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Iestyn Davies: “Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad ar yr ystâd i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu trwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111.

“Rhaid i mi bwysleisio bod digwyddiadau o’r fath yn eithriadol o brin yn Neiniolen.”