Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol o benderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) i roi’r gorau i’w cynllun iaith.

Fe gyhoeddodd yr asiantaeth lywodraethol ym mis Ebrill ei bod yn rhoi’r gorau i’w  gwasanaeth dwyieithog am nad oes digon o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r gwasanaeth a’i fod yn rhy gostus.

Er i’r Comisiynydd Meri Huws ofyn i Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ailafael yn eu Cynllun Cymraeg ar 18 Mehefin eleni, cafodd y cais ei wrthod.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd rhwng Tachwedd eleni a diwedd Ionawr 2014.

Dyma’r tro cyntaf i Meri Huws ddefnyddio ei phwerau o dan Adran 8 o Fesur y Gymraeg 2011.