Mae’r bardd a’r cyn Archdderwydd, Jâms Nicolas, wedi marw.

Bu farw ym Mangor fore Sul – roedd yn 84 mlwydd oed.

Cafodd ei eni yn Nhyddewi a bu’n athro mathemateg yn y Bala, Penfro a Thyddewi cyn dod yn brifathro Ysgol y Preseli yng  Nghrymych ac yna’n arolygydd ysgolion.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969 ac roedd yn Archdderwydd rhwng 1981 ac 1984.

Teyrnged

Dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod: “Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu Jams Nicolas yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Roedd Jams yn gyfaill mawr i’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer, nid yn unig yn ystod ei gyfnod fel Archdderwydd, ond am flynyddoedd wedyn fel un o Gymrodwyr y Brifwyl.

“Roedd Jams yn danbaid dros yr Eisteddfod, ac roedd hyn yn hollol glir yn ystod yr amser hir pan fu’n ymwneud gyda’r Orsedd.  Byddwn yn cofio ei gefnogaeth a’i gyfeillgarwch wrth i ni feddwl am ei deulu a’u colled fawr.”