Ieuan Wyn Jones yn ei ddyddiau'n arweinydd Plaid Cymru
Tir sy’n eiddo i Gyngor Sir Môn yn y Gaerwen sydd wedi cael ei ddewis ar gyfer parc gwyddoniaeth newydd.

Bod mewn ardal fenter a bod yn agos at Brifysgol Bangor oedd dau o’r rhesymau, yn ôl pennaeth Parc Gwyddoniaeth Menai, cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Y bwriad yw bod y parc, sydd dan arweiniad Prifysgol Bangor, yn cydweithio’n agos gyda pholisi Ynys Ynni y cyngor sir – fe fydd yn canolbwyntio ar feithrin cwmnïau gwyddonol arloesol.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, fe fydd pwyslais ar gael y dechnoleg ddiweddara’ ac adeiladau o safon.

Croesawu

Cael y swydd yn Gyfarwyddwr y parc a arweiniodd at ei ymddiswyddiad ef o fod yn Aelod Cynulliad tros Ynys Môn – roedd Plaid Cymru wedi sicrhau arian i’r fenter yn rhan o gytundeb cefnogaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd safleoedd ar y tir mawr yng Ngwynedd wedi eu hystyried hefyd ac mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan yr aelod o gabinet Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gyfrifol am yr economi.

Yn ôl Aled Morris Jones roedd fy penderfyniad yn un positif ac fe allai’r datblygiad fod yn “brosiect pwysig newydd” i’r ynys.