Mae trigolion Bangor yn cael eu hannog i sefydlu menter iaith newydd gan ddwy o gynghorwyr Plaid Cymru’r ddinas.

Dangosodd ffigyrau’r Cyfrifiad diwethaf bod y nifer yn siarad Cymraeg yno wedi syrthio 10% mewn degawd, o 45% yn 2001 i 35% erbyn 2011.

Ac yn ddiweddar fe basiodd Cyngor Gwynedd gais i godi 250 o dai yn ardal Penrhosgarnedd y ddinas – un o’r ychydig lefydd ym Mangor lle mae’r Gymraeg dal i’w chlywed ar y stryd, yn ôl un o gynghorwyr Plaid Cymru.

Wrth ddadlau yn erbyn codi’r tai, fe ddywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams y byddai “adeiladu 250 o dai yn cael effaith ddifrifol ar gymuned lle mae’r Gymraeg yn parhau i gael ei chlywed ar y stryd”.

Angen cefnogaeth

Syniad dwy o Gynghorwyr Plaid Cymru yw Menter Iaith Bangor, er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Mair Rowlands ac Elin Walker Jones yn awyddus i ddenu busnesau lleol i gefnogi’r fenter. Dywedodd y Cynghorydd Mair Rowlands: “Rydyn ni’n awyddus i adeiladu rhwydweithiau a sicrhau cefnogaeth ariannol gan gydweithio ag eraill i hybu’r Gymraeg, gan ystyried nodweddion unigryw y ddinas.”

Ychwanegodd bod trafodaethau cynnar wedi eu cynnal â Phrifysgol Bangor, Canolfan Bedwyr, Urdd Gobaith Cymru, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a Pontio.

Bangor ddwyieithog?

Wrth siarad â golwg360, dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones ei bod yn rhannu pryderon John Wyn Williams am y cynllun codi tai, a bod angen tynhau’r broses gynllunio i roi ystyriaeth ehangach i’r iaith Gymraeg.

“Does dim amheuaeth bod rheolau cynllunio yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg ac yn sicr mae angen diwygio rheolau cynllunio i ystyried yr iaith,” meddai Elin Walker Jones.

“Ond, rwy’n ymwybodol hefyd bod anghenion Bangor yn wahanol i ardaloedd eraill ac mae galw wedi bod gan rai am dai yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli Ward Menai ar Gyngor Gwynedd: “Ein gweledigaeth yw bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd bob dydd ym Mangor a bod pob dinesydd yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i ffyniant. Mae angen i’r Gymraeg ddod yn iaith gymdeithasol, naturiol fel bod y genhedlaeth nesaf yn arddel balchder tuag ati i’r dyfodol.”

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-roed Bangor am 7:00, nos Fawrth Medi 24, er mwyn trafod y cynlluniau arfaethedig.