Bydd criw o feicwyr sy’n teithio o Fangor i Fflandrys er mwyn codi arian ar gyfer cofeb i’r milwyr o Gymru wnaeth farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn galw heibio’r Cynulliad Cenedlaethol yfory.

Mi fydd yr wyth beiciwr yn derbyn croeso gan David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. “Mi fydd y gofeb Gymreig yn cydnabod aberth eithaf dynion ifanc fel Hedd Wyn yn y Rhyfel Mawr mewn brwydrau fel Passchendaele,” meddai David Melding.

Mae’r wyth yn aelodau o Gôr Rygbi Gogledd Cymru ac maen nhw’n teithio 670 milltir o Fangor i Fflandrys.

Ar ôl eu hymweliad â Chaerdydd yfory, mi fydd y criw yn teithio i Bath, Llundain a Dover, ac yna o Dunkirk i Langemark yng Ngwlad Belg lle bydd y gofeb yn cael ei chodi.

Ers rhai blynyddoedd mae Côr Rygbi Gogledd Cymru wedi meithrin cysylltiadau agos â thrigolion Langemark yn Fflandrys  sydd wedi creu cofeb i Hedd Wyn. Ac yn awr mae’r Côr yn anelu at godi £20,000 tuag at gofeb drwy feicio o Fangor i Wlad Belg a chodi arian mewn cyngherddau.

Maen nhw’n gobeithio cyrraedd Langemark dydd Sul nesaf, Medi 15.

Awdurdodau Gwlad Belg sydd wedi rhoi’r safle ger Ypres i godi cofeb i’r Cymry.

Meddai Phil Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gogledd Cymru o Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys, “Dewiswyd safle lle cafodd trydedd frwydr Ypres ei hymladd am mai yn y fan honno y collodd nifer fawr a oedd yn perthyn i Gatrodau Cymru eu bywydau, gan gynnwys y bardd enwog Hedd Wyn.”