Rhys Ifans
Bydd yr actor o Ruthun, Rhys Ifans, yn ymddangos mewn sioe un dyn yn y National Theatre yn Llundain.

Bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan Danny, dyn sy’n byw ar y stryd ac yn cysgu y tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul yng nghanol Llundain, sy’n deffro un diwrnod i ganfod fod protestwyr y mudiad Occupy wedi sefydlu gwersyll o’i gwmpas.

Mae dwy flynedd ers i gannoedd o bobl sefydlu gwersyll y tu allan i’r Eglwys ar ôl iddyn nhw gael eu hatal rhag mynd i mewn Sgwâr Paternoster gerllaw, lle mae Cyfnewidfa Stoc Llundain wedi ei lleoli.

Bydd y fonolog ‘Song Protest’ sy’n cael ei ysgrifennu gan y Cymro Tim Price, yn cael ei llwyfannu yn y theatr rhwng 16 Rhagfyr ac 11 Ionawr.