Neuadd y Ddinas Caerdydd - lle bydd y rali
Fe fydd ymgyrchwyr tros ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd yn dod â chwyn swyddogol yn erbyn rhai o brif swyddogion addysg y cyngor lleol ac yn sgrifennu at dri ombwdsman i ofyn iddyn nhw ymchwilio.

Maen nhw hefyd yn galw am gyfarfod gyda swyddogion cyngor, yr arweinydd addysg ac Aelodau Seneddol ar ôl yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “ffars llwyr” mewn cyfarfod arbennig o un o bwyllgorau craffu’r cyngor ddoe.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gyflwyno cynlluniau newydd erbyn diwedd y mis ar ôl tynnu eu strategaeth wreiddiol yn ôl yn y cyfarfod – a hynny, meddai’r ymgyrchwyr, yn groes i reolau’r cyngor ei hun.

Galw am ysgol Gymraeg

Yn awr fe fydd Ymgyrch Trebiwt a Grangetown (TAG) yn galw eto am sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal – yn hytrach na syniad y Cyngor o ymestyn ysgol mewn rhan arall o’r ddinas.

Mewn cyfarfod cyhoeddus neithiwr, fe benderfynon nhw fynd â’u hachos at Gomisiynydd y Gymraeg, y Comisiynydd Plant a Phobol Ifanc a’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Maen nhw hefyd yn gwneud cwyn swyddogol i Gyngor Dinas Caerdydd am ymddygiad tri uwch swyddog addysg a oedd yn gyfrifol am y cynlluniau gwreiddiol.

‘Syfrdandod’

Yn ôl arweinwyr yr ymgyrch, roedd y penderfyniad ddoe gan y cynghorydd sy’n gyfrifol am addysg, Julia Magill, heb ei debyg erioed o’r blaen.

Roedd wedi arwain at “derfysg a syfrdandod” ymhlith yr ymgyrchwyr, medden nhw, ac wedi mynd yn groes i’r rheolau cyfansoddiadol.

“Mae’r chwalfa’n cadarnhau ein amheuon na ddilynwyd y gweithdrefnau priodol ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â gallu a chymhwysedd y cyngor,” meddai Dyfed Huws a Jo Beavan Matcher.

‘Torri’r cyfansoddiad’

‘Maen nhw’n hapus fod y cynlluniau wedi eu tynnu’n ôl ond yn anhapus gyda’r ffordd y digwyddodd hynny, gan gyhuddo swyddogion a’r arweinydd addysg o gynllunio’u tactegau ymlaen llaw ac o dorri’r cyfansoddiad.

Doedd y mater ddim wedi cael ei drafod yn iawn yn y pwyllgor craffu, medden nhw, ac felly doedd gwendidau’r cynlluniau gwreiddiol ddim wedi cael eu dangos a doedd gwrthwynebiad tystion ddim yn cael ei gofnodi.

“Dyn ni ddim yn hapus,” meddai Jo Matcher wrth Golwg 360. “Ond dyn ni’n mynd i weithio gyda’r cyngor i ffeindio rhywle yn Grangetown neu Trebiwt i godi ysgol newydd.”

Fe fydd hynny’n cynnwys cyfarfodydd gyda swyddogion, y cynghorydd Julia Magill ac aelodau seneddol lleol.

Y cwynion

Fe fydd y gwyn swyddogol yn erbyn uwch swyddogion addysg a oedd yn gyfrifol am gynllun gwreiddiol y cyngor – i ymestyn ysgol Gymraeg yn Nhreganna yn hytrach na chodi ysgol Gymraeg newydd i blant Trebiwt a Grangetown.

Mae Ymgyrch TAG yn honni bod y papur a gyflwynwyd yn trin ffigurau am addysg Gymraeg ac addysg Saesneg yn wahanol i’w gilydd ac yn dangos gogwydd.

Yn ôl Dyfed Huws, fe fyddan nhw’n sgrifennu’r wythnos hon at y tri Chomisiynydd a’r gwyn bwysica’ o’r rheiny yw’r un i’r Comisiynydd Cydraddoldeb.

Maen nhw’n honni bod plant a rhieni yn Nhrebiwt a Grangetown yn cael eu trin yn wahanol i blant a rhieni mewn wardiau eraill lle mae cyfle i gael addysg Gymraeg.

Mae hynny, medden nhw, yn cynnwys gwahaniaethu ar sail ethnig ac economaidd ac ar sail iaith.

Ymateb

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi addo ymateb i’r sylwadau cyn diwedd y dydd.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn trefnu rali o flaen Neuadd y Ddinas Caerdyd, ddydd Sadwrn 21 Medi.