Catherine Zeta Jones yn derbyn ei CBE yn 2011
Mae’r actores o Abertawe Catherine Zeta Jones a’i gwr Michael Douglas wedi cyhoeddi eu bod nhw am “dreulio amser ar wahân” er mwyn ceisio achub eu priodas, yn ôl datganiad lefarydd yr actores.

Fe briododd y cwpl 13 mlynedd yn ôl ac mae ganddyn nhw ddau o blant.

Mae Catherine Zeta Jones, 43, wedi son am ei phroblemau gydag iselder a bu Michael Douglas, 68, yn dioddef o ganser y gwddf yn 2011.

Fe enillodd yr actores Oscar am ei rôl yn y ffilm Chicago yn 2002.