Mae cwmni Whitbread, sy’n gyfrifol am westai Premier Inn, wedi ildio i brotestiadau a chytuno i roi arwyddion dwyieithog yn eu gwesty newydd yn Wrecsam.

Roedd hynny’n dilyn beirniadaeth gyhoeddus ac ymgyrchu ar wefan Twitter, gyda deiseb wedi ei threfnu i fynnu rhoi’r Gymraeg ar arwyddion.

Mewn datganiad ar eu cyfrif trydar, dywedodd y cwmni, “Rydym eisiau gadael i bawb wybod y bydd arwyddion dwyieithog yn ein gwesty newydd yn Wrecsam pan agorir ei ddrysau.”

Deiseb

Cafodd deiseb ei dechrau yr wythnos ddiwethaf ar ôl i’r cwmni ddweud mai Saesneg yn unig fyddai arwyddion eu gwesty newydd yn y dref.

O fewn dyddiau. roedd mwy na 400 o lofnodion ar y ddeiseb, gyda chefnogaeth o sawl rhan o’r byd gan gynnwys Ffrainc, yr Ariannin a Bwlgaria.

Roedd cwmni Whitbread wedi datgan yn wreiddiol mai ‘rhesymau busnes’ oedd tu ôl i’w penderfyniad i beidio arwyddo’r gwesty newydd yn ddwyieithog ac nad oedd defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal yn gwarantu defnyddio arwyddion Cymraeg.

Eisiau newid deddfau

Dywedodd y Cynghorydd Arfon Jones o Gyngor Wrecsam wrth golwg360, “Mae’n drist o beth ein bod yn parhau i ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg ar ôl hanner canrif. Rwy’n gobeithio y bydd troedigaeth y cwmni yn gosod cynsail ar gyfer gweddill Cymru.”

Roedd nifer o gwsmeriaid wedi penderfynu peidio ag aros yn y gwesty yn sgil safiad Whitbread, meddai, gan awgrymu mai dyna pam yr oedd y cwmni wedi ail-feddwl.

“Yn amlwg mae hyn wedi taro’r cwmni yn eu poced,” meddai. “Ond dw i eisiau gweld newid yn y farchnad gynllunio fel bod amodau yn cael eu gosod sy’n amddiffyn yr iaith Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Whitbread.

Tro pedol Premier Inn

Cwmni’n cytuno i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl beirniadaeth a deseb

.

.