Mae pêl-droediwr 24 oed o Sir Benfro wedi syrthio i’w farwolaeth oddi ar falconi mewn gwesty yn Ibiza.

Roedd Grant Weston, oedd yn chwarae i glwb Hundleton, ar ei wyliau efo ffrindiau pan syrthiodd yn ystod oriau man y bore yma.

Mae ei gyd-chwaraewyr wedi talu teyrnged iddo ar Facebook.

“Roedd Grant y tu hwnt o boblogaidd ac yn bêl-droediwr talentog ac fe fydd yn chwith garw ar ei ôl yn Hundleton a gan bawb arall oedd yn ei adnabod.”

Mae’r clwb wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n chwarae’r gêm yn erbyn Pennar  Robins heno o barch i Grant.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod y ddamwain wedi digwydd a dywedodd llefarydd eu bod yn darparu cymorth consylaidd i’r teulu.