Ann Jones yn rhoi neges ar y maes
Mae dwy wleidydd Llafur wedi cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am gael dysgu Cymraeg yn llawn i bob plentyn yng Nghymru.

Roedd Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd, Ann Jones, ar Faes yr Eisteddfod i arwyddo llythyr i’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn am roi’r gorau i’r syniad o ddysgu Cymraeg ail iaith a rhoi’r cyfle i bawb ei dysgu hi i’n iawn, er mwyn ei defnyddio mewn gwaith a bywyd cymdeithasol.

“Dw i’n credu bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bob plentyn yng Nghymru,” meddai Ann Jones.

‘Ail iaith = ail ddosbarth’

Fe fydd y llythyr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru’n ddiweddarach heddiw, meddai llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis.

Roedd Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elen Jones, hefyd wedi arwyddo’r llythyr, ynghyd â’r hyfforddwr rygbi Robin McBryde, cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, a phedwar o ddysgwyr y gyfres deledu Cariad@iaith.

Roedd rhaid rhoi’r gorau  i ddefnyddio’r term ‘ail iaith’ meddai Ffred Ffransis: “Priod iaith bob plentyn yng Nghymru yw’r iaith Gymraeg. Ail iaith = ail ddosbarth a does neb yn ail ddosbarth yng Nghymru.”

Y nod, meddai, yw fod pob plentyn yng Nghymru’n dysgu Cymraeg yn ddigon da i allu ei defnyddio hi: “Fel bod pawb yng Nghymru’n cael ymgeisio am swyddi oherwydd bod y sgiliau gyda phawb.

“Mae pobol sydd wedi dysgu Cymraeg wedi gorfod mynd yn erbyn y llif. Nawr ryden ni eisio troi’r llif.”