Mike Hedges, AC Dwyrain Abertawe
Mae un o Aelodau Cynulliad Llafur wedi rhybuddio llywodraeth ei blaid ei hun rhag canolbwyntio gormod o arian ar iechyd ar draul popeth arall.

Yn ôl Mike Hedges, AC Dwyrain Abertawe, byddai toriadau pellach mewn llywodaeth leol yn cael effaith ddrwg ar iechyd pobl.

Dywed ei fod yn bryderus ynglŷn â disgwyliadau y bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo cyfran uwch o’i chyllideb i’r gwasanaeth iechyd.

“Y dewis hawdd yw torri gwariant llywodraeth leol, a’i ddefnyddio i warchod y gwasanaeth iechyd,” meddai mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, clickonwales.

Gwasanaethau pwysig

“Fodd bynnag, nid yw pethau mor syml â hynny. Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cyfrannu at iechyd a lles.

“Er enghraifft, os nad yw awdurdodau lleol yn gallu cynnig pecynnau gofal cymdeithasol amserol i gleifion sy’n gadael ysbyty, yna fe fyddan nhw’n gorfod aros yn yr ysbyty.

“Yn yr un modd, iechyd fydd yn dioddef os bydd canolfannau hamdden a phyllau nofio’n gorfod cau.

“Mae iechyd yn golygu sicrhau mesurau i gadw’n iach yn ogystal â thrin y rhai sy’n sâl ac wedi anafu, ac mae llywodraeth leol yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau o’r fath.

“Gallai toriadau mawr mewn gwariant llywodraeth leol a llai o wasanaethau’n cael eu darparu ddifrodi iechyd cyffredinol y genedl.”