Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw at argyfwng y Gymraeg yn sir Gaerfyrddin mewn rali ddechrau'r flwyddyn
Mae siroedd y de-orllewin yn colli un o bob pum disgybl Cymraeg i addysg Saesneg yn ôl adroddiad diweddara’r Llywodraeth ar addysg Gymraeg.

Dyna yw rhybudd y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, sy’n dweud bod Sir Gaerfyrddin yn dal gyda’r gwannaf yng Nghymru am sicrhau bod disgyblion sydd wedi cael addysg Gymraeg yn mynd ymlaen i fanteisio ar addysg uwchradd Gymraeg.  Mae 23% o ddisgyblion – un o bob pedwar – yn cael eu colli o addysg Gymraeg i addysg Saesneg.  Mae Sir Benfro gyda’r gwannaf hefyd, gyda 27% yn cael eu colli, er bod rhai o’r sir hon yn mynd i gael addysg Gymraeg mewn siroedd cyfagos.  Mae’r sefyllfa’n waeth fyth yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy’n colli 31% o’i disgyblion, er bod rhai’n mynd i Sir Gaerfyrddin.

Meddai Lynne Davies, cadeirydd RhAG,  “Mae’r golled ieithyddol hon yn digwydd yn yr union ran o Gymru lle mae gofid mawr yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011.  Mae angen i Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot fynd ati’n ddi-oed i gryfhau eu trefn ddilyniant cynradd-uwchradd.”

Dywedodd fod pryder mawr fod disgyblion a arferai astudio’r Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd yn mynd ymlaen i’w dysgu fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd.

“Mae cael trefn sy’n caniatáu i ddisgyblion newid i ail iaith yn twyllo’r system arholiadau, ac yn tanseilio canlyniadau TGAU ail iaith,” meddai.

“Yn waeth na hyn efallai yw’r ffaith nad yw’r disgyblion eu hunain yn cael datblygu eu sgiliau ieithyddol a dod yn oedolion â sgiliau cyfartal yn y ddwy Iaith. Mae gan y Llywodraeth dargedau i wella’r dilyniant cynradd-uwchradd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cynnal trafodaethau gyda’r siroedd yn ne-orllewin Cymru ar newid eu trefn.”