Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd.

Dyna farn ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith, a fydd yn cynal cyfarfod trawsbleidiol i darfod y mater ar faes yr Eisteddfod heddiw.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylai safonau iaith newydd Llywodraeth Cymru greu’r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg.

Bydd y rheoliadau newydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmniau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Bydd y drafodaeth yn cynnwys siaradwyr o’r pedair brif blaid, gan gynnwys yr Aelodau Cynulliad Keith Davies, Elin Jones ac Aled Roberts, a’r Cynghorydd Aled Davies.

‘Digon o siarad’

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau’r Gymdeithas a fydd yn cadeirio’r cyfarfod, bod y cyfrifoldeb dros ddyfodol yr iaith yn nwylo’r Prif Weinidog.

“Ry’n ni wedi clywed digon o siarad gan y Prif Weinidog am ei ymrwymiad i’r Gymraeg – mae’n hen bryd iddo gyflawni,” meddai.

“Dyna yw ei brawf cyntaf yngŷn â’r hyn mae e’n mynd i’w wneud dros y Gymraeg. Mae gyda fe benderfyniad i’w wneud a allai warantu gwell defnydd o’r Gymraeg ar hyd a lled y wlad.

“Mae’r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau – ac mi fyddwn ni’n ei ddal e i gyfrif. Yn ei ddwylo fe mae un o’r penderfyniadau pwysicaf – penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy.

“Rydyn ni’n gofyn am hawliau clir i bobl, ar lawr gwlad, i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio yn y gweithle, a’r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

“Gallai safonau o’r fath helpu’r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion ei strategaeth iaith. Felly, does dim esgus na rheswm gan Carwyn Jones ond rhoi’r hawliau hynny yn y safonau. Mae siarad yn hawdd, y gwneud sy’n gofyn am arweiniad go iawn.”