Un o gyfarfodydd Dyfodol
Fe fydd galwad yn yr Eisteddfod am gael cyfraith newydd i roi lle swyddogol i’r Gymraeg ym maes cynllunio.

Fe allai hynny olygu y byddai’n rhaid ystyried effaith unrhyw ddatblygiad newydd ar yr iaith Gymraeg cyn ei ganiatáu.

Fe fydd y cyfreithiwr amlwg, Emyr Lewis, yn dweud wrth gyfarfod o’r mudiad Dyfodol i’r Iaith, nad yw nodyn cyngor arall gan y Llywodraeth yn ddigon – mae disgwyl i hwnnw gael ei gyhoddi yn yr hydref.

Angen ffordd o fesur

Yr angen mawr arall yw am ffordd glir o fesur beth yw effaith cynlluniau ar yr iaith, meddai Elin Wyn o Dyfodol.

Roedd cynghorau sir yn “gwneud esgus” o’r diffyg patrwm, meddai, gan gomisiynu adroddiadau a oedd wedyn yn annigonol.

Y mis diwetha’, fe glywodd y Gynhadledd Fawr am yr iaith bod Arolygydd Cynllunio Cymru’n gwrthod barn cynghorau am nad oedd ganddyn nhw dystiolaeth gadarn

Cefnogi’r alwad

“Fe fyddwn ni’n cefnogi’r alwad am ddeddf newydd,” meddai Elin Wynb. “Fe fyddai hynny’n rhoi’r Gymraeg ar dudalen flaen y ddeddf – dyw nodyn cyngor ddim yn ddigon.

Yn Y Gynhadledd Fawr, fe ddaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, dan bwysau oherwydd arafwch y Llywodraeth yn  cyhoeddi fersiwn newydd o’r nodyn cyngor ar yr iaith a chynllunio, TAN 20.

Fe fu ymgynghori ar hynny tua dwy flynedd yn ôl ond fydd e ddim yn cael ei gyhoeddi tan fis Tachwedd.

Mae Golwg360 yn deall nad yw’r fersiwn newydd yn debyg o fodloni ymgyrchwyr iaith.

Fe fydd cyfarfod Dyfodol ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ddydd Mawrth.