Y Prif Weinidog Carwyn Jones - gwahodd sylwadau ar ddyfodol cymunedau Cymraeg
Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd sylwadau gan y cyhoedd mewn ymgynghoriad ar ddyfodol cymunedau lle mae’r Gymraeg yn dal i fod yn brif iaith.

Fe fydd grŵp, a gafodd ei sefydlu y llynedd i greu cynllun i gynyddu nifer y cymunedau Cymraeg, yn cynnal sesiwn ar faes Faes yr Eisteddfod ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 1.30 ddydd Mawrth.

Bwriad y sesiwn fydd trafod:

  • sut i gynyddu’r nifer o deuluoedd ifanc sy’n siarad Cymraeg
  • sut i annog pobl sy’n newydd i ardal benodol i sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg ac ystyried ei dysgu
  • sicrhau cyflenwad addas o dai i bobl leol
  • y mesurau y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill eu cymryd i hyrwyddo’r iaith.

“Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i leisio’u barn a rhoi awgrymiadau,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd bellach yn gyfrifol am bortffolio’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru. ”Edrychaf ymlaen at dderbyn argymhellion gan y grŵp.”

Anfon sylwadau

Gall pobl sy’n methu â dod i’r sesiwn yn yr Eisteddfod e-bostio sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus i welshcommunities@wales.gsi.gov.uk. Hefyd, gellir bostio gwybodaeth at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg, Adeiladau’r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1EP.

Mae’r Grŵp yn gofyn ar i bob gwybodaeth ato gael ei anfon erbyn 5 Medi 2013.