Kate Roberts
Yn ystod wythnos Eisteddfod Dinbych a’r Cylch, bydd dwy ddrama newydd yn cael eu llwyfannu gan Theatr Bara Caws.

Bydd ‘Cyfaill’ gan Francesca Rhydderch ac addasiad llwyfan o ‘Te yn y Grug’ gan Manon Wyn Williams yn cael eu perfformio yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, o nos Fawrth 6 Awst hyd at nos Wener, 9 Awst am 7.30pm.

‘Cyfaill’

Mae ‘Cyfaill’ gan Francesca Rhydderch yn archwilio un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gŵr, Morris Williams, o alcoholiaeth.

Yn ôl Francesca Rhydderch hoffai Kate Roberts ddweud fod ei bywyd yn darllen fel nofel, gan iddi ddioddef profedigaethau pan yn wraig ifanc wrth iddi golli ei brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yna’i gŵr ym 1946.

Dywedodd Francesca Rhydderch: “Wrth ysgrifennu drama sy’n mynd i’r afael â galar Kate ar ôl colli Morris Williams, fy mwriad oedd dangos gallu Kate i lunio gwaith artistig o ddeunydd crai ei bywyd.”

‘Te yn y grug’

Awdures ifanc o Ynys Môn, Manon Wyn Williams, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o addasu ‘Te yn y Grug’ ar gyfer y llwyfan ac mae hi’n falch iawn o’r cyfle er gwaethaf ysgwyddo’r baich o drosi gwaith mor adnabyddus a phoblogaidd.

“Gan fod ‘Te yn y Grug’ yn destun mor gyfarwydd i gynulleidfaoedd, meddai Manon Wyn Williams, “roedd yn bwysig glynu’n agos at y cymeriadau, y straeon a’r ddeialog wreiddiol, ac yn arbennig felly i arddel ieithwedd, idiomau a geirfa Kate Roberts sydd mor nodweddiadol ohoni fel awdures. Dyma gyfrol sydd mor agos at ein calon fel cenedl ac a fu’n rhan o blentyndod cynifer ohonom”.

Betsan Llwyd yw cyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws a hi gyfarwyddodd y ddwy ddrama. Mae hi’n o’r farn mai Dinbych yw’r lle i lwyfannu’r dramâu hyn er bod llawer efallai yn cysylltu Kate Roberts â Rhosgadfan yng Ngwynedd.

Ei chyfnod mwyaf toreithiog yn Ninbych

“Bywyd a gwaith pwy arall a fynnai sylw, â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, a ninnau’n perfformio yn Theatr Twm o’r Nant, ond Kate Roberts,” meddai Betsan Llwyd.

“Ac er nad oedd cyfnod yr awdures yn y dref yn fêl i gyd, y blynyddoedd yn Ninbych a esgorodd ar ei chyfnod creadigol mwyaf toreithiog. Mae wedi bod yn hynod o ddifyr gweithio ar ddrama ffuglenol sydd wedi ei seilio ar ffeithiau, ochr yn ochr ag addasiad o un o’i llyfrau mwyaf poblogaidd.”

Yn ogystal â’r dramâu, bydd John Ogwen a Maureen Rhys yn cyflwyno’u rhaglen arbennig, ‘Annwyl Kate, Annwyl Saunders’ yn y Babell Lên am 12.45 y prynhawn, sef cipolwg ar gyfnod maith o lythyru rhwng dau o brif lenorion Cymru.