Mae ymgynghori’n dechrau heddiw ynglŷn â deddf newydd bosib i atal pobol rhag byw trwy’r flwyddyn mewn meysydd carafanau.

Fe enillodd yr Aelod Cynulliad Darren Millar yr hawl i gyflwyno bil yn y Cynulliad a fyddai’n atal problem sydd, meddai, yn creu trafferthion mawr mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae cynghorydd yng Ngwynedd, Aled Evans, hefyd wedi codi pryderon am y peryg fod carafanau’n cael eu troi’n gartrefi parhaol.

Fe fyddai hynny, meddai, yn golygu mewnlifiad trwy’r drws cefn ac mae arweinydd Cyngor Conwy wedi sôn am y pwysau ar wasanaethau lleol.

‘Gwasanaethau, ond dim trethi’

Yn ôl Bob Squire, mae 5,000 o bobol yn byw’n barhaol mewn carafanau yn y sir, er bod hynny yn erbyn y rheolau ac nad ydyn nhw’n talu trethi cyngor.

Mae llawer ohonyn nhw’n oedrannus, meddai ar Radio Wales. “Mae arnyn nhw angen llawer rhagor o ofal, ond dydyn ni’n cael dim.”

Y dadleuon o blaid

Dyma’r dadleuon yr oedd Darren Millar wedi eu cyflwyno wrth roi’r syniad am y bil gerbron y Cynulliad:

Mae’r Bil hwn wedi’i gynllunio i roi sylw i bryderon ynghylch rheoli a rheoleiddio meysydd carafanau gwyliau, gan gynnwys:

  • byw mewn carafanau yn anghyfreithlon
  • y pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phobl sy’n byw mewn carafanau yn anghyfreithlon
  • yr adnoddau sydd ar gael i orfodi amodau ynglŷn â thrwyddedau meysydd carafanau gwyliau
    priodoldeb gweithredwyr/perchnogion meysydd carafanau gwyliau
  • y ffordd y mae rhai perchnogion meysydd carafanau gwyliau yn cam-drin perchnogion carafanau gwyliau ar eu safleoedd
  • cost darparu gwasanaethau cyhoeddus i’r rhai sy’n defnyddio carafanau gwyliau yn brif gartrefi.