Aberfan
Mae un o oroeswyr trychineb Aberfan wedi galw am ganslo drama ddadleuol am y digwyddiad sydd i fod i gael ei dangos yng Ngŵyl y Frinj yng Nghaeredin fis nesaf.

Mae’r cynhyrchiad, ‘Children of Mine’, yn adrodd hanes y trychineb yn 1966 pan laddwyd 144 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n blant, wrth i domen wastraff y pwll glo lithro a chwympo ar dai ac Ysgol Gynradd Pantglas yn y pentref.

Ond mae Bernard Thomas, oedd yn un o’r disgyblion a lwyddodd i ddianc ond a gollodd dau o’i berthnasau, wedi dweud wrth y BBC nad oedd neb wedi ymgynghori a’r goroeswyr wrth ysgrifennu a chynhyrchu’r ddrama.

Mae’r ddrama, gyda chymeriadau ffuglennol, yn adrodd yr hyn  ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw ym mis Hydref 1966.

Dywedodd yr awdur, Mark Jermin, bod y ddrama’n “deyrnged addas”.