Meri Huws
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am adolygiad o system gwyno Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod â’r Comisiynydd Meri Huws ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw.
Mae’r mudiad iaith wedi rhyddhau llythyr sydd wedi cael ei anfon at Meri Huws yn dilyn nifer o achosion diweddar ble mae pobl wedi mynegi rhwystredigaeth gyda’r system bresennol.
Mae Meri Huws yn annog aelodau’r cyhoedd i ysgrifennu ati gyda chwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg, ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod gyda nhw bryderon mawr gyda’r ffordd y mae swyddfa’r Comisiynydd yn ymdrin â’r cwynion.
Achosion penodol
Yn y llythyr, mae Cymdeithas yr iaith yn tynnu sylw at dri achos penodol :
– Ymyrraeth honedig â rhyddid Gwion Schiavone i siarad Cymraeg â gweithiwr yswiriant cwmni Admiral;
– diffyg cydymffurfiaeth Cyngor Torfaen â’u cynllun iaith;
– a sefyllfa grwpiau chwarae yn Sir Fflint, yn benodol diffyg grwpiau chwarae Cymraeg a’r toriad i grwpiau Cymraeg sy’n bodoli eisoes.
Yn llythyr at y Comisiynydd, dywed Sian Howys llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Yn ddiweddar, mae nifer o bobl wedi cysylltu â’r Gymdeithas i fynegi eu rhwystredigaeth gyda natur anfoddhaol eich system gwyno… Mae’r achosion … yn codi cwestiynau mawr am drefn cwynion y Comisiynydd, ac am eich swyddogaeth fel eiriolwr i siaradwyr Cymraeg.
“Mae’r Gymdeithas wedi dadlau ers blynyddoedd dros greu Comisiynydd y Gymraeg, ond mae’n rhaid i’r swyddogaeth honno fod yn un sy’n ymateb yn gadarnhaol i bryderon siaradwyr Cymraeg ac yn mynd ati yn rhagweithiol i ddefnyddio’i phwerau i’w llawn botensial.
“Yn sgil yr achosion hyn yn benodol rydym yn galw arnoch i weithredu er mwyn sicrhau [nifer o] newidiadau [a chynnal] adolygiad o’r system derbyn a delio gyda chwynion…”
Angen newidiadau i’r system
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Comisiynydd Iaith i weithredu er mwyn sicrhau newidiadau penodol, sef:
– Bod y Comisiwn yn rhyddhau’r meini prawf maen nhw’n ei ddefnyddio wrth ystyried sut y dylid ymdrin â chwynion;
– Cynnal adolygiad o’r system derbyn a delio gyda chwynion;
– Datgan na fydd dyletswydd ar yr achwynydd o hyn ymlaen i brofi fod person yn dymuno siarad Cymraeg mewn achosion o ymyrryd â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg;
– Bod y Comisiynydd yn llawer mwy rhagweithiol wrth ymdrin â chwynion gan ddefnyddio ei phwerau llawn o dan Ddeddf Iaith 1993 i orfodi newid yn y sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â’u cynlluniau iaith;
– Ystyried eich dyletswyddau o dan Adran 3 Mesur y Gymraeg 2011 yn holl waith y Comisiynydd.
Gan dynnu sylw at yr angen am hawliau clir yn y safonau iaith, ychwanegodd Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith: “Pan gafodd y Mesur Iaith ei basio, cawson ni addewid y byddai gan bobl Cymru hawliau iaith glir. Os yw’r hawliau i gael eu parchu a’u gwireddu, bydd rhaid i’r Comisiynydd fod a system gwyno gadarn iawn. Ar hyn o bryd, nid oes un gyda hi.”
Mae swyddfa’r Comisiynydd bellach wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn y llythyr ddydd Llun.