Ian Johnston, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Mae agwedd Comsiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cael ei ddisgrifio fel un ‘dirmygus’ mewn adroddiad seneddol ar bwerau Comisiynwyr i ddi-swyddo Prif Gwnstabliaid.

Fe wnaeth Comisiynydd Gwent, Ian Johnston, wahodd y Prif Gwnstabl, Carmel Napier i ymddiswyddo yn ddiweddar gan osgoi gweithredu’r drefn fuasai’n arwain at ei di-swyddo.

Fe wnaeth Mrs Napier ymddeol yn wirfoddol ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol oedd yn dweud bod grym y Comisiynydd dan y ddeddf yn ddibendraw.

Ymchwiliad

Mae Pwyllgor Dethol Ty’r Cyffredin ar Faterion Cartref wedi cynnal ymchwiliad i bwerau’r Comisiynwyr gan gyhoeddi adroddiad sy’n dweud ei bod yn hawdd i Gomisiynwyr osgoi swyddogaeth y paneli heddlu a throsedd i adolygu penderfyniad unrhyw Gomisiynydd i ddi-swyddo Prif Gwnstabl.

Cafodd Ian Johnston ei alw i gyflwyno tystiolaeth gerbron y pwyllgor ac wedyn fe wnaeth drydar ei fod yn credu bod aelodau seneddol Gwent wedi trefnu i AS Dyffryn Clwyd Chris Ruane ofyn cwestiynau.

Mae’r adroddiad yn dweud bod hyn yn brawf o “ agwedd ddirmygus tuag at waith y Senedd yn adolygu” gan ychwanegu fod yr hyn ddigwyddodd hefyd yn “arwydd o or-sensitifrwydd clir i feirniadaeth gan wleidydd gafodd ei ethol gan lai na 8% o’r etholaeth, a lwyddodd i osgoi y trefniadau statudol i archwiliad lleol o’i benderfyniad i roi’r sac i’r Prif Gwnstabl, a hyn yn dystiolaeth, os oes angen hynny, bod angen rhwystrau a gwrthbwysau ar gomisiynwyr heddlu a throsedd.”

Ymateb

Mewn ymateb i’r feirniadaeth dywedodd Mr Johnston ei fod am ail-adrodd mai lles cymunedau Gwent sydd wedi ac a fydd yn rheng flaen ei benderfyniadau ac y bydd bob tro yn gweithredu yn unol â’r deddfau perthnasol.

“Rwyf hefyd eisiau sicrhau aelodau’r cyhoedd y byddaf yn bwrw ymlaen i benodi Prif Gwnstabl ddechrau mis Medi,” meddai “ac yn y cyfamser yn gweithio efo’r Prif Gwnstabl dros dro Jeff Farrar er mwyn sicrhau bod gan y Llu y sefydlogrwydd a’r arweinyddiaeth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth yr heddlu yng Ngwent sy’n cyflawni anghenion cymunedau Gwent.”

Pryder

Canlyniad yr adroddiad seneddol yw ei bod yn hawdd osgoi rôl adolygu y paneli lleol a bod angen ail edrych ar hyn oll pan fydd y Pwyllgor Seneddol yn ystyried gwaith y comisiynwyr ym mis Tachwedd, flwyddyn ar ôl iddyn nhw gael eu hethol.

Roedd y pwyllgor hefyd wedi gwrando ar dystiolaeth am ymadawiad Prif Gwnstabl Avon a Gwlad yr Haf a’r penderfyniad i atal Prif Gwnstabl swydd Lincoln o’i waith yn dilyn anghytuno efo’r comisiynwyr yno.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol Keith Vaz AS “Mae’n achos pryder bod comisiynwyr heddlu a throsedd yn gallu osgoi y broses statudol i ddi-swyddo prif gwnstabl. Dylai’r Paneli Heddlu a Throsedd chwarae rhan weithredol mewn penderfyniadau fel hyn.”