Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i gynlluniau dadleuol ar gyfer 10 parth cadwraeth morol.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies ei fod wedi lansio asesiad o’r ardaloedd morol gwarchodedig presennol i weld a oes angen cyflwyno newidiadau.

Roedd wedi cynnal ymgynghoriad ar opsiynau a fyddai’n gwarchod y parthau morol yn ehangach.

Fe fyddai creu’r parthau wedi golygu y byddai pysgota ac angori yn cael eu gwahardd mewn rhai ardaloedd.

Dywedodd Alun Davies: “Byddaf yn cyflwyno argymhellion y tîm gorchwyl a gorffen, ac er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd pellach ynglŷn â’r opsiynau a gyflwynwyd fel rhan o ymgynghoriad 2012, rwyf hefyd yn tynnu’r holl safleoedd arfaethedig yn ôl.

“Fel y cam nesaf, rwy’n awyddus i ddeall mwy am yr amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan gyfres o 125 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n ymestyn dros 36% o foroedd Cymru.

“O ganlyniad, rwyf wedi comisiynu asesiad o’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol er mwyn nodi a oes unrhyw fylchau ac ystyried yr opsiynau posibl i lenwi’r bylchau hynny. Os oes angen cyflwyno unrhyw gamau gweithredu, credaf y dylent fod yn syml, yn gymesur ac yn addas i’r diben.”

Roedd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru wedi dweud bod parthau cadwraeth morol presennol  yn ddigonol.

Croesawu’r cyhoeddiad

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad. Dywedodd llefarydd amgylchedd y blaid Llŷr Gruffydd AC: “Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ar y gweinidog i sgrapio’r cynlluniau yma ers y llynedd ac rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

“Mae cyflwr nifer o Ardaloedd Morol Gwarchodedig  yng Nghymru yn annigonol a’r flaenoriaeth yw sicrhau bod y safleoedd presennol yn cael eu rheoli’n iawn cyn creu parthau cadwraeth newydd.

“Mae’r gweinidog, o’r diwedd, wedi sylweddoli hyn.

“Roedd y cynlluniau gwreiddiol wedi ennyn teimladau cryf ar draws nifer o gymunedau arfordirol, ac roedd ’na bryderon am yr effaith economaidd a chymdeithasol posib.

“Mae Plaid Cymru’n cefnogi’r egwyddor o ragor o gadwraeth forol ond dylai unrhyw gynlluniau gael cydweithrediad y rhai hynny sy’n gwneud eu bywoliaeth o’r môr.”