Cynllun artist o Lido Afan
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau i adnewyddu adeilad Lido Afan ym Mhort Talbot.

Bydd y gwaith o ail-godi’r adeilad yn costio £13.4 miliwn, yn dilyn tân dair blynedd a hanner yn ôl.

Bydd y ganolfan yn cael ei chodi ar safle Parc Hollywood, ac fe fydd yn cynnwys canolfan fowlio deg.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd y ganolfan yn cynnwys pwll nofio wyth lôn a champfa.

Mae disgwyl i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno ym mis Medi, ac fe allai’r ganolfan agor yn 2015.

Fe fydd un o bwyllgorau’r Cyngor yn craffu ar fanylion y cais yn y dyfodol agos.